Cofnodion DRAFFT y Grŵp Trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr

19 Chwefror 2014

12.00 – 13.30

Ystafell Friffio’r Cyfryngau

Cadeirydd: Julie Morgan AC

 

Ffocws: Sipsiwn a Theithwyr Hŷn a’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Materion ffurfiol: Cytunwyd y bydd Julie Morgan AC yn parhau yn Gadeirydd ac y bydd Chaminda Seneviratne yn parhau yn Ysgrifennydd.

Amlinellodd Bev Stephens, Pennaeth Prosiect Sipsiwn a Theithwyr Sir Benfro, yr hyn y meant yn ei wneud. Maent yn rhedeg gwasanaeth addysg ond yn ymdrin ag amrywiaeth eang o faterion. Maent wedi lansio’r prosiect UNITY (gydag arian y Loteri). Mae ganddynt dri aelod newydd o staff: Catherine, Swyddog Iechyd a Lles (nyrs), Bryn, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol, a Denise, Gweithiwr Eiriolaeth a Chyngor. 

Amlinellodd Catherine eu cynllun. Mae ganddynt bum safle i Sipsiwn a Theithwyr sy’n cael eu rhedeg gan yr awdurdod lleol, gyda 91 o leiniau. Mae aelodau hŷn o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu parchu, ond maent yn wynebu anawsterau. Yn 2006, cynhaliwyd arolwg a daethpwyd i’r casgliad bod ganddynt oll hawl i annibyniaeth a gofal a chymorth. Fodd bynnag, maent yn teimlo wedi’u hynysu, yn rhannol oherwydd bod rhai teuluoedd yn symud i ffwrdd i gael gwaith.

Problemau y mae Sipsiwn a Theithwyr Hŷn yn eu hwynebu:

Disgwyliad oes fyrrach
Mae ganddynt incymau is yn aml gan mai dim ond gwaith dros dro y maent wedi’i wneud o bosibl felly nid ydynt yn cael pensiwn llawn, ac felly maent yn aml yn dibynnu ar gredydau pensiwn
Mae ymdeimlad o falchder weithiau yn eu hatal rhag gwneud cais
Mae’n bosibl bod angen cymorth arnynt i wneud cais
Problemau o ran bod â’r dogfennau cywir
Problemau o ran bod pobl hŷn angen cymorth gan eu teuluoedd ond nid oes lle ar gael yng ngharafán y teulu ac efallai ni allant gael hyd i le i’w carafanau eu hunain
Gall gymryd misoedd i gael ramp ar gyfer carafán


Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae cymorth teuluol a chymunedol cryf i bobl hŷn

Yn Sir Benfro, ceir agwedd o dderbyn diwylliant Sipsiwn a Theithwyr ac addasu i’r hyn a ddarperir ar eu cyfer, yn hytrach na cheisio newid y gymuned Sipsiwn a Theithwyr.

TRAFODAETH – materion a godwyd:

Rhan o rôl Catherine yw hyfforddi gweithwyr iechyd. Mae rhai Sipsiwn a Theithwyr yn teimlo nad yw’n beth glan cael toiled y tu mewn i’r garafan. Roedd yn well gan un menyw hŷn aros yn ei charafan yn yr ardd nag aros gyda’r teulu yn y tŷ, ond ystyriwyd eu bod yn sarhaus tuag ati, ac roedd y gweithwyr iechyd yn tybio nad oedd y teulu am ei chael yn y tŷ.  

Y cyswllt rhwng cyfleusterau a iechyd gwael. Mae cyfradd uwch o Sipsiwn a Theithwyr yn hunan-gofnodi poenau yn y frest a phroblemau anadlu, mae mwy o gamddefnyddio cyffuriau yn eu plith a nifer uwch ohonynt yn ceisio lladd eu hunain. Mae’r diffyg safleoedd ar gyfer carafannau yn golygu bod pobl yn gorfod aros mewn tai, a gall hynny gynyddu’r nifer sy’n dioddef o iselder a straen.

Cyfeiriodd Catherine, y Swyddog Iechyd a Lles, at y disgwyliad oes is ymysg y gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Ystyrir bod rhywun sy’n 55 oed neu’n hŷn yn berson hŷn, ac mae pobl hŷn yn dechrau dangos symptomau o broblemau iechyd yn gynt na’r rheini nad ydynt yn Sipsiwn neu’n Deithwyr, ond ni allant gael eu sgrinio yn y modd arferol oherwydd ystyrir eu bod yn rhy ifanc. Ym Mhowys, mae sgrinio ar gael ar gyfer pobl dros 50 oed.

Cwestiynau am gofrestru gyda meddyg. Nid yw hyn yn broblem, ond gall gymryd amser i gael apwyntiad. Cyfeiriodd Bev at un feddygfa lle mae’n ymddangos mai dim ond un nyrs ardal sy’n barod i ymweld â’r safle Sipsiwn a Theithwyr, ond ymddengys o gyfraniadau pobl eraill bod hyn yn anarferol. Yng Nghaerdydd, mae mamau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr wedi gofyn am weithwyr iechyd penodol i weithio gyda nhw fel y gallant feithrin perthynas dda â hwy, ac mae hyn yn gweithio’n dda. Mae nyrys ardal yn ymweld â’r safle yn rheolaidd hefyd.

Cyfeiriodd Margaret Pritchard o Hosbis George Thomas hefyd at y ffaith bod ymgynghorwyr a nyrsys yn ymweld yn rheolaidd ac mae pobl yn ymddiried ynddynt. Gall bobl gyfeirio eu hunain atynt, ond yn aml nid ydynt yn gwneud hynny’n ddigon buan.  Mae’r gymuned yn edrych ar ôl ei phobl hŷn.

Cytunodd eraill, gan gynnwys Bryn, nad yw cofrestru gyda meddyg teulu yn broblem. Mae’r diffyg lle ar gyfer perthnasau sy’n ymweld, a’r gofal ar gyfer pobl hŷn, yn fwy o broblem. Ond mae’n anarferol iawn i berson hŷn o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr fynd i gartref preswyl.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar safleoedd yn cynnwys capasiti ychwanegol ar gyfer problemau o’r fath, ond nododd John o Lywodraeth Cymru nad yw hyn yn wir, ond y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar y canllawiau eleni. Byddant hefyd yn ymgynghori ar y Bil Tai eleni.

Holwyd awdurdodau lleol ynghylch beth fydd y galw – mae’n ymddangos bod angen tua 200/250 o leiniau. Ar hyn o bryd, mae 366 o leiniau ar safleoedd sydd wedi’u hawdurdodi. Mae’r bobl ychwanegol yno eisoes, ond maent mewn llety anaddas.

Trafodaeth ynghylch safleoedd mawr. Mae rhai pobl yn dymuno byw ar safleoedd llai i deuluoedd. Fodd bynnag, yn Sir Benfro, ceir rhai safleoedd mwy sy’n gweithio’n dda. Cafodd safle Rover Way ei feirniadu.

Ceir problem o ran canfod tir o’r maint cywir. Weithiau mae Sipsiwn a Theithwyr yn prynu tir sy’n anaddas. Mae angen eu haddysgu ynghylch pa dir sy’n addas. Bu Mark Isherwood AC yn gweithio gyda theulu yr oedd eu hawl i adeiladu wedi cael ei wrthod.

Pa drafodaethau a gafwyd gyda’r byrddau iechyd? Darperir gwasanaethau allweddol gan y sector elusennol. Pwysleiswyd yr angen am un pwynt cyswllt ar gyfer adnoddau. Dywedodd John o Lywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu canfod eleni beth yw materion iechyd y gymuned Sipsiwn a Theithwyr, beth yw’r rhwystrau, a sut i’w goresgyn.

Cyfeiriodd Rez Jamal o Race Equality First at y prosiect cenedlaethol sy’n ymchwilio i droseddau casineb. Ym Mlaenau Gwent, roedd wedi canfod nad oedd pobl bob tro’n hysbysu’r heddlu ynghylch troseddau casineb a bod camdybiaethau’n bodoli. Mae llai o droseddau casineb yn Sir Benfro, ond mae un fenyw yn gwrthod mynd i siopa ar ei phen ei hun ar ôl darllediadau o My Big Fat Gypsy Wedding, (nid oes unrhyw un wedi ymosod yn gorfforol arni ond mae’n clywed pobl yn sibrwd am y gymuned Sipsiwn a Theithwyr). Mae staff Prosiect Sipsiwn a Theithwyr Caerdydd yn clywed am droseddau casineb, ond nid yw pobl yn barod i hysbysu’r heddlu yn eu cylch. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cymorth i Ddioddefwyr ac Achub y Plant i edrych ar nifer y bobl sy’n hysbysu’r heddlu ynghylch troseddau casineb dros y tair blynedd nesaf.